Cydnabod Rhagoriaeth Busnes Powys!
Categorïau ar gyfer pob cam, maint a sector o Fasnachwyr Unigol i Fusnesau Rhyngwladol
Wedi ei drefnu’n lleol! Wedi ei greu ym Mhowys, ar gyfer Powys! Lansio ar 3ydd o Fehefin 2026
Mynediad 2026 Nawr Ar Agor! Ffurflen gais nawr AR AGOR!
Diolch am gymryd rhan yng Ngwobrau Busnes Powys eleni. Cyhoeddir y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn fuan! Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cael cadarnhad e-bost oddi wrth y trefnwyr i gadarnhau eu cais. Os nad ydych wedi derbyn e-bost 48 awr ar ôl gwneud cais, cysylltwch â’r trefnwyr os gwelwch yn dda.
AWST/MEDI - MAE’R BEIRNIADU’N DIGWYDD
MEDI - MAE’R FFILMIO’N DIGWYDD
DYDD GWENER 23AIN O HYDREF – NOSON WOBRWYO YN YSGOL FRWYDR TROEDFILWYR, DERING LINES, ABERHONDDU
FFURFLEN GAIS 2026
Categorïau & meini prawf beirniadu
Mae’r categorïau canlynol ar gael, wnewch chi ddarllen y meini prawf isod, os gwelwch yn dda i weld sut mae’r beirniaid yn sgorio’r ceisiadau a chynyddu eich siawns o ddod i’r rownd derfynol.
· Gwobr Cychwyn Busnes wedi ei noddi gan EvaBuild
· Gwobr Entrepreneuriaeth wedi ei noddi gan Grŵp Colegau NPTC
· Gwobr Fusnes Micro [llai na 10 o weithwyr] wedi ei noddi gan Wasanaeth Hyfforddi Myrick
· Gwobr twf wedi ei noddi gan WR Partners
· Gwobr Busnesau Bach [o dan 30 o weithwyr] wedi ei noddi gan 5C Services
· Gwobr Menter Gymdeithasol / Elusen wedi ei noddi gan WPG
· Technoleg ac Arloesedd wedi ei noddi gan SudoCyber
· Gwobr Unig Fasnachwr wedi ei noddi gan The County Times
· Gwobr Fasnach Ryngwladol wedi ei noddi gan Lywodraeth Cymru
· Gwobr Partneriaeth Busnes - Addysg wedi ei noddi gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Meini Prawf y Beirniaid ar gyfer Gwobr Menter Gymdeithasol / Elusen
Noddwr: WPG
Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw sefydliad elusennol neu fenter gymunedol sy’n masnachu ym Mhowys gyda phwrpas cymdeithasol a/neu ar sail ddielw.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth eich bod chi:
· Yn dangos agwedd arloesol yn y ffordd mae’r fenter yn gweithredu a/neu gyfarfod ei amcanion sylfaenol.
· Gwneud effaith bositif ar gymdeithas/cymunedau a/neu amgylchedd.
· Gwneud effaith bositif ar fywydau unigolion, yn enwedig gweithio mewn modd sy’n helpu’r bregus a/ neu unigolion difreintiedig i helpu eu hunain.
· Prosiectau sydd â photensial ar gyfer twf datblygu’r dyfodol a chynaladwyedd.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer y Wobr Twf
Noddwr: WR Partners
Drwy wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu twf busnes o fewn y farchnad maent yn gweithredu ynddo.
Allwch chi ddangos datblygiad sylweddol mewn un neu fwy o’r mannau canlynol? Hyfforddiant, Marchnata, Datblygu Pobl, E-fasnach, Masnach Ryngwladol. Felly ewch at y Wobr Twf Busnes.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth o:
· Twf proffidiol o’r busnes.
· Tystiolaeth gyffyrddadwy a chaled o lwyddiant masnachol; Bydd rheolaethau cyllidol effeithiol yn bwysig i lwyddiant y busnes yn ogystal â strategaethau marchnata sy’n canolbwyntio ar y cwsmeriaid.
· Cynllun busnes ysgrifenedig gyda strategaeth a gweledigaeth am y 3-5 mlynedd nesaf; ac amcanion sydd wedi eu diffinio’n glir a fydd yn llunio twf a datblygiad y sefydliad.
· Arweinyddiaeth a rheolaeth gref gyda’r gallu i yrru'r busnes ymlaen.
· Dealltwriaeth am y farchnad a mecanweithiau i ymateb i newid.
· Mecanweithiau ariannu a chynlluniau buddsoddi ar gyfer y busnes.
· Diwylliant sefydliadol sy’n annog datblygiad o’r gweithwyr, creadigrwydd a grymuso
· Tystiolaeth o dwf cynaliadwy dros y 12-18 mis diwethaf neu fwy o’r mannau rhestredig. Gall hwn gynnwys busnesau wedi eu sefydlu sydd wedi dioddef dirywiad ac sydd wedi gweithredu rhaglenni adfer.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Cychwyn Busnes
Noddwr: EvaBuild
Mae hon yn agored i’r holl gwmnïau sydd wedi bod yn masnachu am lai na 3 blynedd ar adeg y cais.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos sut mae eu busnes wedi cynyddu o fewn eu cynllun busnes. Bydd llwyddiant yn cael ei brofi gan y busnes a’i weithwyr yn dangos dealltwriaeth glir o’u cynnyrch, cystadleuwyr a’r farchnadle mae’r busnes yn gweithredu ynddo. Nid yw busnesau sy’n bodoli o dan reolaeth newydd yn gymwys i’r categori hwn.
Bydd y beirniaid yn edrych am dystiolaeth eich bod:
· Yn gallu cyfleu’n eglur eich syniad busnes a’r broses gychwyn, rhoi tystiolaeth o gynllun busnes sydd wedi ei ymchwilio’n dda a rhagolygon am berfformiad busnes.
· Yn cyflawni – a rhagori – ar eich cynllun busnes gwreiddiol a gallu cynhyrchu tystiolaeth ar sail eich llyfr archeb.
· Yn arddangos gweledigaeth wedi ei diffinio’n glir am ddatblygu a thyfu’r busnes o ran trosiant a chyflogaeth, gan gynnwys strategaeth ar gyfer datblygiad o staff.
· Yn canolbwyntio’n gryf ar anghenion y cwsmer trwy strategaethau marchnata effeithiol a sylw i adborth y cwsmeriaid.
· Yn cael rheolau cyllidol addas mewn llaw i fonitro cynnydd a rheoli llif arian.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Fusnes Micro [Dan 10 o Weithwyr]
Noddwr: Gwasanaethau Hyfforddi Myrick
Mae hon yn agored i gwmnïau o lai na 10 o weithwyr [Cyfwerth ag Amser Llawn]. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos cyflawniad rhagorol mewn pob agwedd o’u sefydliad. Bydd y beirniaid yn edrych am dyfiant cryf, arloesedd ac arweinyddiaeth ynghyd â gweledigaeth glir.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth o:
· Cynllun busnes cadarn a strategaeth Gwerthu a Marchnata.
· Arweinyddiaeth gref gyda’r gallu i yrru’r busnes ymlaen.
· Ymroddiad i ddatblygu a hyfforddi staff
· Arloesedd ac uchelgais
· Perfformiad cyllidol cryf
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Busnesau Bach [Dan 30 o weithwyr]
Noddwr: SC Services
Mae hon yn agored i bob cwmni o lai na 30 o weithwyr. [Cyfwerth ag Amser Llawn] Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos cyflawniad rhagorol mewn pob agwedd o’u sefydliad. Bydd y beirniaid yn edrych am dyfiant cryf, arloesedd ac arweinyddiaeth ynghyd â gweledigaeth glir.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth o:
· Cynllun busnes cadarn a strategaeth Gwerthu a Marchnata.
· Arweinyddiaeth gref gyda’r gallu i yrru’r busnes ymlaen
· Ymwybyddiaeth amgylcheddol ac ymroddiad i’r gymuned.
· Ymroddiad i ddatblygu a hyfforddi Staff
· Arloesedd ac uchelgais
· Pob un yn arwain at berfformiad cyllidol cryf.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Entrepreneuriaeth
Noddwr: Grŵp Colegau NPTC
Bydd y beirniaid yn edrych i roi’r wobr hon i unigolyn sydd wedi arddangos entrepreneuriaeth, gweledigaeth, arloesedd ac ysbryd entrepreneuriaid naill ai wrth sefydlu busnes newydd bach neu ddatblygu’n llwyddiannus busnes presennol neu fenter gymdeithasol.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth o:
· Arloesedd, uchelgais ac eglurdeb o weledigaeth
· Arweinyddiaeth gref gyda’r gallu i yrru’r busnes ymlaen a datrys problemau dyddiol.
· Cynllun busnes cadarn sydd wedi ei selio ar ymchwil gadarn.
· Strategaeth Werthu a Marchnata sy’n mynd i’r afael gyda’r angen am dwf.
· Perfformiad cyllidol addawol.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Technoleg ac Arloesedd
Noddwr: SudoCyber
Mae’r wobr hon yn cael eu hanelu at gwmnïau sy’n gallu arddangos sut maent yn defnyddio technoleg ac arloesedd i'w cadw nhw ar flaen y gad.
Dylai’r ceisiadau ganolbwyntio ar gynnyrch neu gymhwysiad penodol.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth bod y busnes yn gallu:
· Dangos dyfeisgarwch a dull newydd i ddatrys problemau.
· Dangos prosesau cyfunol a galluoedd profedig
· Dangos gweithrediad o fewn y busnes
· Perthnasedd masnachol
· A bod arloesedd yn rhan annatod a blaenoriaethol o’r cynllun busnes.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Unig Fasnachwr
Noddwr: The County Times
Rydym ni’n edrych i adnabod busnesau gweithredwr unigol sy’n datblygu eu busnes/cysyniad ar ben eu hunain. Er nad oes gan y perchnogion busnes hyn weithwyr parhaol neu ran amser, gallwn nhw ddefnyddio contractwyr ar-lein.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth eich bod chi:
· Yn arddangos ymroddiad i wella eu set sgiliau eu hunain.
· Yn cyflawni – a rhagori - eich cynllun busnes gwreiddiol a gallu cynhyrchu tystiolaeth o lyfr archebion ymlaen llaw.
· Yn dangos gweithrediad o fewn y busnes.
· Yn arddangos gweledigaeth sydd wedi ei ddiffinio’n glir am dyfu’r busnes.
· Yn cael ffocws cryf ar anghenion y cwsmer drwy strategaethau marchnata effeithiol a sylwi ar adborth y cwsmer.
· Yn cael rheolaethau cyllidol addas wrth law i fonitro cynnydd a rheoli’r llif arian.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Masnach Ryngwladol
Noddwr: Llywodraeth Cymru
Mae’r wobr hon yn cydnabod busnes ym Mhowys sydd wedi cyflawni llwyddiant amlwg mewn masnach ryngwladol a thwf allforio. Mae’n dathlu sefydliadau sydd wedi arddangos perfformiad masnachol cryf, datblygiad o farchnad strategol, arloesedd, ystwythder, ac effaith bositif drwy allforio nwyddau a gwasanaethau yn rhyngwladol.
Mae’r wobr yn agored i fusnesau o bob maint sy’n gallu arddangos llwyddiant allforio mesuradwy dros y 2-3 blynedd ddiwethaf [ond yn cydnabod amodau marchnad heriol].
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth ar:
· Twf Allforio Cryf a Pherfformiad Cyllidol - mi allai hwn gynnwys twf mewn gwerthiannau/refeniw allforio, y ganran o drosiant a gynhyrchwyd yn rhyngwladol, mynediad i farchnadoedd newydd rhyngwladol, proffidioldeb a chynaliadwyedd masnachol, gwytnwch er gwaethaf heriau’r farchnad.
· Strategaeth Ryngwladol Glir a Datblygiad o Farchnad - Gall hwn gynnwys strategaeth allforio, ymchwil a dealltwriaeth o farchnadoedd targed, dull llwyddiannus o fynd i mewn i farchnad, partneriaethau/dosbarthwyr ac asiantaethau cryf dramor.
· Arloesedd a Mantais Gystadleuol – Arloesedd mewn cynnyrch, gwasanaethau neu gludiant, defnydd o dechnoleg i gefnogi twf rhyngwladol, cynnig gwerthu unigryw mewn marchnadoedd tramor.
Gallu gweithredol a darpariaeth – y gallu i reoli logisteg a chydymffurfiad rhyngwladol, gwytnwch y gadwyn gyflenwi, safonau ansawdd a gwasanaeth ardystio a gallu cyflawni.
Beirniadu’r Meini Prawf ar gyfer Gwobr Partneriaeth Busnes -Addysg.
Noddwr: Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Mae’r wobr hon yn cydnabod arfer gorau a chydweithio rhwng cyflogwr/wyr a sefydliad/au addysgol. Dylai’r bartneriaeth fod rhwng o leiaf un athrofa addysg ac o leiaf un busnes neu grŵp cynrychioliadol diwydiant. Dylai’r bartneriaeth fodoli ar adeg yr enwebiad.
Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth ar:
· Partneriaethau cymwys sydd wedi cael eu creu o fewn y tair blynedd ddiwethaf.
· Bod y partneriaethau wedi gwneud effaith fesuradwy/sylweddol ar gyflawnder y myfyrwyr a’r ysgol.
· Mi all y bartneriaeth arddangos cynaladwyedd ac arloesedd [nail ai yn y bartneriaeth ei hunan neu ei ganlyniadau]
Bod gan y bartneriaeth gefnogaeth gref o’r staff.
Gwobr y Beirniaid a Gwobr Gyffredinol Busnes y Flwyddyn ym Mhowys.
Yn ychwanegol i’r gwobrau uchod, mae gan y Panel o Feirniaid wobr ddewisol o’r enw Gwobr y Beirniaid. Mae’r wobr i gydnabod rhyw gyflawnder rhagorol neu berson sydd wedi dod i sylw’r beirniaid yn ystod eu hymweliadau ac nad yw’r meini prawf llym ar gyfer y gwobrau eraill yn eu cydnabod. Mae hon yn wobr arbennig. Yn ail, o Enillwyr y Catgoriau daw'r Wobr Gyffredinol sydd wedi ei noddi gan Gyngor Sir Powys.
Y Meini Prawf ar gyfer Busnes y Flwyddyn.
· Mae’r beirniaid yn edrych am dystiolaeth o:
· Cynllun Busnes cadarn a strategaeth o Werthu a Marchnata.
· Ymroddiad eglur i gwsmeriaid.
· Arweinyddiaeth gref gyda’r gallu i yrru’r busnes ymlaen.
· Record ardderchog o hyfforddi a datblygu staff.
· Ymroddiad i’r gymuned.
· Ymroddiad i gynaladwyedd ac i ddatgarboneiddio.
· Arloesedd ac uchelgais.
· Twf mewn elw wedi ei gefnogi gan reolaethau ariannol cadarn.
· I arddangos cydraddoldeb ac amrywiaeth fel nodweddion allweddol yn ei holl weithredoedd.
· Ymglymiad amlwg yr holl staff i lwyddiant y busnes.
· Tystiolaeth bod y strategaeth bresennol yn cynnig twf cynaliadwy a chreu swyddi.
· I fod yn fanerwr dros lwyddiant ym Mhowys.